1. Yn unol â darpariaethau paragraff 7 Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, dirprwyir drwy hyn swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad, gan gynnwys ei gyfrifoldeb am reoli staff, i’r Prif Weithredwr a’r Clerc, yn ddarostyngedig i’r eithriadau ac amodau a ganlyn.
2. Ni ddirprwyir y materion canlynol:
a) penodiad, telerau ac amodau a thâl y Prif Weithredwr a’r Clerc, cynghorwyr anweithredol y Comisiwn, ac aelodau’r Pwyllgor Archwilio; nac
b) awdurdodi gwariant o dan baragraff 6 Atodlen 2 i Ddeddf 2006 (sef darparu cymorth ariannol i’r Comisiwn Etholiadol).
3. Rhaid i’r Prif Weithredwr a’r Clerc ymgynghori â’r Comisiwn cyn:
a) penodi ar gyfer swyddi’r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad a’r Prif Gynghorydd Cyfreithiol;
b) newid tâl a thelerau ac amodau’r staff sydd yn y swyddi hynny;
c) creu swyddi cyfarwyddo newydd neu ddiddymu swyddi cyfarwyddo sydd eisoes yn bodoli;
d) awdurdodi gwariant cyfalaf ar brosiectau sy’n fwy nag £1 miliwn; ac
e) awdurdodi gwariant ar faterion y gellid eu hystyried yn newydd neu’n ddadleuol.
4. Nid yw dirprwyo’r swyddogaethau uchod yn rhwystro’r Comisiwn rhag ymgymryd â’r swyddogaethau dirprwyedig hynny.
Arwyddwyd ar ran y Comisiwn gan y Llywydd
………………………………………………
Mehefin 2011